You can make a difference by supporting our Cardiff Afghan Families Appeal. 

Oasis Cardiff is pleased to be working with Cardiff Council and Taff Housing Association to support Afghan families arriving in Wales. Together we have set up the Cardiff Afghan Families Appeal to provide much-needed support to those evacuated to the UK following the regime change in August 2021.

As reported in national and local news, our new family arrivals, many of who worked with our Welsh Armed Services, were forced to leave their homes and livelihoods. Our new arrivals travelled here with few possessions, but a great desire to settle into their new life in Wales through work, study, and building meaningful connections within their new community.  

People in Wales have already shown incredible generosity by donating clothes, toys, and hygiene products, but we have now reached capacity and are unfortunately unable to receive further items.

Instead, funds donated through the Cardiff Afghan Families Appeal will be used to provide a range of essential goods and services, which families have told us are very much needed. Although the Government is providing both immediate housing and emergency accommodation, with support from Councils across Wales, there is a range of needs not covered by statutory funds so if you are able please support this appeal.

Your donations will directly allow families to access essential services and items which will help build their independence and support them as they settle in Wales.

Depending on the amount raised, donations may be used further to provide activities and support for the wider asylum-seeking and refugee community in Wales.

Gwnewch wahaniaeth pwysig drwy gefnogi Apêl Teuluoedd Affganistan Caerdydd

Mae Oasis Cardiff yn falch o gydweithio gyda Chyngor Caerdydd a Chymdeithas Tai Taff i gefnogi teuluoedd o Affganistan sy’n cyrraedd Cymru. Rydym wedi dod ynghyd i sefydlu Apêl Teuluoedd Affganistan Caerdydd er mwyn darparu cefnogaeth hollbwysig i deuluoedd a orfodwyd i ffoi i’r DU yn dilyn y newid llywodraeth yn Kabul yn 2021.

Mae straeon teuluoedd o Affganistan, llawer ohonyn nhw wedi gweithio gyda’n Lluoedd Arfog, wedi llenwi’r penawdau. Gorfodwyd llawer i adael eu cartrefi a’u bywoliaeth. Fe gyrhaeddon nhw Gymru yn brin o eiddo personol, ond yn benderfynol o fwrw gwreiddiau yng Nghaerdydd drwy weithio, astudio a gwneud cyfraniad i’w cymuned newydd.

Mae pobl Cymru eisoes wedi dangos haelioni eithriadol drwy gyfrannu dillad, teganau a deunyddiau hylendid, ond erbyn hyn rydym wedi cyrraedd ein uchafswm eithaf ac yn anffodus ni allwn dderbyn rhagor o roddion.

Yn hytrach, pan ddaw cyllid newydd i law drwy Apêl Teuluoedd Affganistan Caerdydd byddwn yn defnyddio’r arian i ddarparu nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol. Mae angen mawr amdanyn nhw – dyna neges y teuluoedd i ni. Er fod y Llywodraeth yn darparu tai a llety fel mater o frys, gyda chefnogaeth Cynghorau lleol ledled Cymru, mae ystod eang o anghenion sydd heb eu diwallu drwy gyllid statudol, felly os oes modd i chi helpu a wnewch chi gefnogi’r apêl yma os gwelwch yn dda? 

Bydd eich cyfraniadau yn galluogi teuluoedd i gael mynediad uniongyrchol i wasanaethau ac eitemau angerheidiol. Bydd hyn yn gymorth iddyn nhw fagu annibyniaeth a’u cefnogi wrth iddyn nhw setlo yng Nghaerdydd.

Gan ddibynnu ar y cyfanswm a gesglir drwy’r apêl hon, gellir defnyddio cyfraniadau i gefnogi’r gymuned ehangach o geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd yn ogystal.

 

Translation / Cyfieithiad: Marc Edwards